Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Chwefror 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Undebau Llafur, yn sgil y llythyr gan Weinidog Gwladol y DU dros sgiliau ynghylch symud y Bil ymlaen yng Nghymru? EAQ(4)2717(FM)R
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
NDM5950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
NDM5949 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM5948 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf
Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 yn
cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2015.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru)
2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim
pwyntiau adrodd
(15 munud)
NDM5955 Ken Skates (De Clwyd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
Dogfennau Ategol
Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol Diwygiedig
(120 munud)
NDM5947 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015.
'Cynigion Cyllideb Ddrafft 2016-17'
Dogfennau Ategol
Gyllideb
Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017
Adroddiad Y Pwyllgor Cyllid
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol;
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi gwledig.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2016